1-3. Dyro di ogoniant,Arglwydd, nid i ni,Ond i’th enw, canysCariad ydwyt ti.Pam yr hola’r gwledydd,“Ple y mae eu Duw?”Mae’n Duw ni’n y nefoedd;Crëwr popeth yw.
10. O dŷ Aaron, credwchYn yr Arglwydd Dduw,Cans eich cymorth parodChwi, a’ch tarian yw.
11. Chwi sy’n ofni’r Arglwydd,Rhowch eich cred yn Nuw,Cans eich cymorth parodChwi, a’ch tarian yw.
12-14. Y mae Duw’n ein cofio,A’n bendithio a wna.Fe fendithia IsraelA thy Aaron dda,A phawb sy’n ei ofni,Boed yn fach neu’n fawr.Amlhaed Duw chwiOll, a’ch plant yn awr.
15. Boed i chwi gael bendithGan yr Arglwydd Dduw;Crëwr mawr y nefoeddA’r holl ddaear yw.
16-18. Am y nefoedd uchod,Eiddo’r Arglwydd yw;Ond fe roes y ddaearI blant dynolryw.Ni all neb o’r meirwFoli Duw o’u tref,Ond nyni’n oes oesoeddA’i moliannwn ef.Molwch bawb yr Arglwydd,A bendithiwch Dduw,Cans eich cymorth parodChwi, a’ch tarian yw.