Salm 57:3-8 Salmau Cân 1621 (SC)

3. O’r nef yr enfyn geidwad y’m,rhag nerth dyn llym a’m llyngcai:Enfyn fy Nuw ei nawdd a’i hedd,a’i lân wirionedd didrai.

4. Ym mysg y llewod mae fy oes,plant dynion poethfoes eiriau,Eu dannedd sydd fel gwayw neu saeth,a’i tafod gwaeth nâ’r cleddau.

5. Ymddercha Dduw y nef uwchlaw,oddiyno daw d’arwyddion:A bydded dy ogoniant ary ddaiar, a’i thrigolion.

6. O flaen fy nrhaed y rhoesant rwyd,ac felly’m rhwymwyd weithian:Ar fy ffordd y cloddiasant glawdd,i’r hwn yn hawdd syrthiasan.

7. Parod yw fy nghalon (o Dduw)o parod yw fy nghalon.Canaf yt’ a datcanaf wawdo fawl fy nhafawd cyson.

8. Deffro dafod, a deffro dant,a chân ogoniant beunydd,Nabl a thelyn, eb ado un,deffrof fy hun ar las ddydd.

Salm 57