1. Dy ras, dy nawdd, (fy Nuw) ym’ dod,sef ynod ymddiriedaf,Nes myned heibio’r aflwydd hyndan d’edyn ymgyscodaf.
2. Ymddiried f’enaid ar Dduw sydd,ar Dduw drwy ffydd mi a alwaf,Ac a gwblhaf ei air yn iawn,sef cyfiawn yw’r Goruchaf.
3. O’r nef yr enfyn geidwad y’m,rhag nerth dyn llym a’m llyngcai:Enfyn fy Nuw ei nawdd a’i hedd,a’i lân wirionedd didrai.