Salm 85:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. O ARGLWYDD, ti wedi bod yn garedig wrth dy dir,ac wedi rhoi llwyddiant i Jacob eto.

2. Ti wedi symud euogrwydd dy bobl,a maddau eu pechodau i gyd. Saib

3. Ti wedi tynnu dy lid yn ôl,a throi cefn ar dy wylltineb.

4. Tro ni'n ôl, O Dduw, ein hachubwr!Rho heibio dy ddicter tuag aton ni.

Salm 85