Salm 80:8-18 beibl.net 2015 (BNET)

8. Cymeraist winwydden o'r Aifft,a gyrru cenhedloedd i ffwrdd er mwyn ei thrawsblannu hi.

9. Cliriaist le iddi,er mwyn iddi fwrw gwreiddiaua llenwi'r tir.

10. Roedd ei chysgod dros y mynyddoedd,a'i changhennau fel rhai coed cedrwydd.

11. Roedd ei changhennau'n cyrraedd at y môr,a'i brigau at afon Ewffrates.

12. Pam wnest ti fwrw'r wal o'i chwmpas i lawr,fel bod pwy bynnag sy'n pasio heibio yn pigo ei ffrwyth?

13. Mae'r baedd gwyllt wedi tyrchu o dani,a'r pryfed yn bwyta ei dail.

14. O Dduw holl-bwerus, tro yn ôl aton ni!Edrych i lawr o'r nefoeddac archwilia gyflwr dy winwydden!

15. Ti dy hun wnaeth ei phlannu,a gwneud iddi dyfu.

16. Ond bellach mae hi wedi ei llosgi a'i thorri i lawr!Mae wedi ei difetha gan dy gerydd di.

17. Nertha'r dyn rwyt wedi ei ddewis;yr un dynol rwyt wedi ei wneud yn gryf.

18. Wnawn ni ddim troi cefn arnat ti.Adfywia ni, a byddwn ni'n galw ar dy enw.

Salm 80