1. Ydw, dw i'n disgwyl yn dawel am Dduw;fe ydy'r un all fy achub i.
2. Ie, fe ydy'r graig lle dw i'n ddiogel;lle i mi gysgodi sy'n hollol saff.
3. Pryd ydych chi'n mynd i stopio ymosod ar ddyn?Ymosod arno i'w ddifa fel wal sydd ar fin syrthio,neu ffens sy'n simsan?
4. Ydyn, maen nhw'n cynllunio i'w fwrw i lawro'i safle dylanwadol.Maen nhw wrth eu boddau gyda chelwydd;maen nhw'n dweud pethau sy'n swnio'n garedig,ond yn ei felltithio yn eu calonnau. Saib
5. Ie, disgwyl di'n dawel am Dduw, fy enaid,achos fe ydy dy obaith di.
6. Fe ydy'r graig lle dw i'n ddiogel;lle i mi gysgodi sy'n hollol saff.
7. Mae Duw'n edrych ar ôl fy lles i,ac mae'n rhoi nerth i mi.Dw i'n gadarn fel y graig,ac yn hollol saff gyda Duw.