Salm 60:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. O Dduw, rwyt ti wedi'n gwrthod nia bylchu ein hamddiffyn.Buost yn ddig gyda ni.Plîs adfer ni!

2. Gwnaethost i'r tir grynu,a'i hollti'n agored.Selia'r holltau, cyn i'r cwbl syrthio!

3. Ti wedi rhoi amser caled i dy bobl;a rhoi gwin i'w yfed sydd wedi'n gwneud ni'n chwil.

4. Coda faner i'r rhai sy'n dy ddilynallu dianc ati rhag saethau'r bwa. Saib

5. Defnyddia dy gryfder o'n plaid, ac ateb nier mwyn i dy rai annwyl gael eu hachub.

6. Mae Duw wedi addo yn ei gysegr:“Dw i'n mynd i fwynhau rhannu Sichem,a mesur dyffryn Swccoth.

7. Fi sydd piau Gileada Manasse hefyd.Effraim ydy fy helmed i,a Jwda ydy'r deyrnwialen.

Salm 60