Salm 31:9-20 beibl.net 2015 (BNET)

9. Helpa fi, O ARGLWYDD,mae hi'n argyfwng arna i.Mae fy llygaid wedi mynd yn wan gan flinder –fy nghorff i gyd i ddweud y gwir.

10. Dw i'n cael fy llethu gan boen;mae fy mlynyddoedd yn dod i ben mewn tuchan.Mae pechod wedi fy ngwneud i'n wan,ac mae fy esgyrn yn frau.

11. Mae'r holl elynion sydd gen iyn gwneud hwyl ar fy mhen.Mae fy ffrindiau yn arswydo;mae pobl yn cadw draw pan maen nhw'n fy ngweld i ar y stryd.

12. Maen nhw wedi anghofio amdana i, fel petawn i wedi marw!Dw i'n dda i ddim, fel jar sydd wedi torri.

13. Dw i'n clywed beth maen nhw'n ei sibrwd,a'r straeon ofnadwy sy'n dod o bob cyfeiriad.Maen nhw'n cynllwynio yn fy erbyn i;maen nhw eisiau fy lladd i.

14. Ond dw i'n dy drystio di, O ARGLWYDD.Dw i'n datgan yn glir, “Ti ydy fy Nuw i!”

15. Dw i yn dy ddwylo diachub fi o afael y gelynion sydd ar fy ôl i.

16. Bydd yn garedig at dy was.Dangos mor ffyddlon wyt ti! Achub fi!

17. O ARGLWYDD, paid â'm siomi pan dw i'n galw arnat.Gwna i'r rhai drwg gael eu siomi!Cau eu cegau nhw unwaith ac am byth!

18. Rho daw ar y rhai sy'n dweud celwydd;y bobl hynny sy'n herio'r rhai sy'n byw'n iawnac mor haerllug a dirmygus ohonyn nhw.

19. Ond mae gen ti gymaint o bethau dai'w rhoi i'r rhai sy'n dy addoli di.O flaen pawb, byddi'n rhoi'r cwbl iddyn nhw,sef y rhai sy'n troi atat ti am loches.

20. Rwyt ti gyda nhw, ac yn ei cuddiorhag y dynion sy'n cynllwynio yn eu herbyn.Ti'n cysgodi drostyn nhwac maen nhw'n saffrhag y tafodau miniog sy'n ymosod.

Salm 31