Salm 19:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae'r nefoedd yn dangos ysblander Duw,a'r awyr yn dweud am grefftwaith ei ddwylo.

2. Mae'r neges yn mynd allan bob dydd;mae i'w weld yn amlwg bob nos!

3. Does dim llais go iawn, na geiriau,na dim i'w glywed yn llythrennol.

4. Ond mae pawb wedi clywed beth maen nhw'n ddweud;a'r neges wedi mynd i ben draw'r byd!Cododd babell i'r haul yn yr awyr.

5. Mae'n dod allan fel priodfab o'i ystafell;neu athletwr yn frwd i redeg ras.

6. Mae'n codi ar y gorwel,ac yn symud o un pen i'r llall.Does dim yn gallu cuddio rhag ei wres.

7. Mae dysgeidiaeth yr ARGLWYDD yn berffaith –mae'n rhoi bywyd newydd i mi!Mae rheolau yr ARGLWYDD yn glirac yn gwneud y person mwyaf cyffredin yn ddoeth.

8. Mae cyngor yr ARGLWYDD yn dangos beth sy'n iawnac yn gwneud y galon yn llawen.Mae arweiniad yr ARGLWYDD yn burac yn ein goleuo ni.

Salm 19