Jeremeia 3:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Os ydy dyn yn ysgaru ei wraig,a hithau wedyn yn ei adael ac yn priodi rhywun arall,dydy'r dyn cyntaf ddim yn gallu ei chymryd hi yn ôl.Byddai gwneud hynny'n llygru'r tir!Ti wedi actio fel putain gyda dy holl gariadon;felly wyt ti'n meddwl y cei di ddod yn ôl ata i?”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

2. “Edrych ar y bryniau o dy gwmpas!Oes rhywle rwyt heb orwedd i gael rhyw?Roeddet ti'n eistedd ar ochr y ffordd,fel bedowin yn yr anialwch,yn disgwyl amdanyn nhw!Ti wedi llygru'r tirgyda dy holl buteinio a'th ddrygioni.

3. Dyna pam does dim glaw wedi bod,a dim sôn am gawodydd y gwanwyn.Ond roeddet ti mor benstiff â phutainac yn teimlo dim cywilydd o gwbl.

4. Ac eto dyma ti'n galw arna i, ‘Fy nhad!Ti wedi bod yn ffrind agos ers pan o'n i'n ifanc –

5. Wyt ti'n mynd i ddal dig am byth?Wyt ti ddim yn mynd i aros felly, nac wyt?’Ie, dyna beth ti'n ddweud,ond yna'n dal i wneudcymaint o ddrwg ag y medri di!”

6. Pan oedd Joseia yn frenin dwedodd yr ARGLWYDD wrtho i, “Ti wedi gweld beth wnaeth Israel chwit-chwat – mynd i ben pob bryn uchel a gorwedd dan bob coeden ddeiliog a chwarae'r butain drwy addoli duwiau eraill.

7. Hyd yn oed wedyn roeddwn i yn gobeithio y byddai hi'n troi'n ôl ata i. Ond wnaeth hi ddim. Ac roedd Jwda, ei chwaer anffyddlon, wedi gweld y cwbl.

8. Gwelodd fi'n rhoi papurau ysgariad i Israel ac yn ei hanfon hi i ffwrdd am fod yn anffyddlon i mi mor aml, drwy addoli duwiau eraill. Ond wnaeth hynny ddim gwahaniaeth i Jwda. Dyma hithau'n mynd ac yn puteinio yn union yr un fath!

9. Roedd Israel yn cymryd y cwbl mor ysgafn, ac roedd hi wedi llygru'r tir drwy addoli duwiau o bren a charreg.

10. Ond er gwaetha hyn i gyd, dydy Jwda, ei chwaer anffyddlon, ddim wedi troi'n ôl ata i go iawn. Dydy hi ddim ond yn esgus bod yn sori,” meddai'r ARGLWYDD.

11. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Roedd Israel chwit-chwat yn well na Jwda anffyddlon!

12. Felly, dos i wledydd y gogledd i ddweud wrth bobl Israel,‘Tro yn ôl ata i, Israel anffyddlon!’ meddai'r ARGLWYDD.‘Dw i ddim yn mynd i edrych yn flin arnat ti o hyn ymlaen.Dw i'n Dduw trugarog!Fydda i ddim yn dal dig am byth.

Jeremeia 3