Gwelodd fi'n rhoi papurau ysgariad i Israel ac yn ei hanfon hi i ffwrdd am fod yn anffyddlon i mi mor aml, drwy addoli duwiau eraill. Ond wnaeth hynny ddim gwahaniaeth i Jwda. Dyma hithau'n mynd ac yn puteinio yn union yr un fath!