Ioan 19:6-17 beibl.net 2015 (BNET)

6. Y foment y gwelodd y prif offeiriaid a'u swyddogion e, dyma nhw'n dechrau gweiddi, “Croeshoelia fe! Croeshoelia fe!”Ond meddai Peilat, “Cymerwch chi e a'i groeshoelio eich hunain! Lle dw i'n y cwestiwn, mae e'n ddieuog.”

7. “Mae gynnon ni Gyfraith,” meddai'r arweinwyr Iddewig, “ac yn ôl y Gyfraith honno mae'n rhaid iddo farw, am ei fod wedi galw ei hun yn Fab Duw.”

8. Pan glywodd Peilat hyn, roedd yn ofni fwy fyth.

9. Aeth yn ôl i mewn i'r palas a gofyn i Iesu, “O ble wyt ti wedi dod?” Ond roddodd Iesu ddim ateb iddo.

10. “Wyt ti'n gwrthod siarad â fi?” meddai Peilat. “Wyt ti ddim yn sylweddoli mai fi sydd â'r awdurdod i naill ai dy ryddhau di neu i dy groeshoelio di?”

11. Atebodd Iesu, “Fyddai gen ti ddim awdurdod o gwbl drosto i oni bai ei fod wedi ei roi i ti gan Dduw, sydd uwchlaw pawb. Felly mae'r un drosglwyddodd fi i ti yn euog o bechod llawer gwaeth.”

12. O hynny ymlaen roedd Peilat yn gwneud ei orau i ollwng Iesu yn rhydd. Ond dyma'r arweinwyr Iddewig yn gweiddi eto, “Os gollyngi di'r dyn yna'n rhydd, dwyt ti ddim yn gyfaill i Cesar! Mae unrhyw un sy'n hawlio ei fod yn frenin yn gwrthryfela yn erbyn yr ymerawdwr Cesar!”

13. Pan glywodd Peilat hyn, daeth â Iesu allan eto, ac eisteddodd yn sedd y barnwr yn y lle oedd yn cael ei alw ‛Y Palmant‛ (‛Gabbatha‛ yn Hebraeg).

14. Roedd hi'n ddiwrnod paratoi ar gyfer wythnos y Pasg, tua canol dydd.“Dyma fe, eich brenin chi,” meddai Peilat wrth y dyrfa.

15. Ond dyma nhw'n gweiddi, “I ffwrdd ag e! I ffwrdd ag e! Croeshoelia fe!”“Dych chi am i mi groeshoelio eich brenin chi?” meddai Peilat.“Cesar ydy'n hunig frenin ni!” oedd ateb y prif offeiriaid.

16. Yn y diwedd dyma Peilat yn gadael iddyn nhw gael eu ffordd, ac yn rhoi Iesu i'w groeshoelio.Felly aeth y milwyr ag Iesu i ffwrdd.

17. Aeth allan, yn cario ei groes, i'r lle sy'n cael ei alw Lle y Benglog (‛Golgotha‛ yn Hebraeg).

Ioan 19