O hynny ymlaen roedd Peilat yn gwneud ei orau i ollwng Iesu yn rhydd. Ond dyma'r arweinwyr Iddewig yn gweiddi eto, “Os gollyngi di'r dyn yna'n rhydd, dwyt ti ddim yn gyfaill i Cesar! Mae unrhyw un sy'n hawlio ei fod yn frenin yn gwrthryfela yn erbyn yr ymerawdwr Cesar!”