Daniel 8:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yn ystod trydedd flwyddyn teyrnasiad Belshasar, ces i, Daniel, weledigaeth arall. Roedd hon yn dilyn yr un roeddwn wedi ei chael o'r blaen.

2. Y tro hwn gwelais fy hun yn Shwshan, y gaer sydd yn nhalaith Elam. Roeddwn yn sefyll wrth ymyl Camlas Wlai.

3. A gwelais hwrdd yn sefyll wrth ymyl y gamlas. Roedd gan yr hwrdd ddau gorn hir, ond roedd un corn yn hirach na'r llall, er ei fod wedi dechrau tyfu ar ôl y llall.

4. Roedd yr hwrdd yn rhuthro, ac yn ymosod ar bopeth i'r gorllewin, gogledd a de. Doedd dim un anifail arall yn gallu sefyll yn ei erbyn na'i rwystro. Roedd yn gwneud fel y mynnai, ac yn brolio'i hun.

5. Tra roeddwn i'n edrych ar hyn, dyma fwch gafr yn dod dros y tir o gyfeiriad y gorllewin. Roedd yn symud mor gyflym doedd ei draed ddim yn cyffwrdd y llawr. Roedd gan y bwch un corn amlwg ar ganol ei dalcen.

6. Daeth at yr hwrdd gyda'r ddau gorn roeddwn i wedi ei weld wrth y gamlas, a rhuthro'n ffyrnig yn ei erbyn.

7. Roeddwn yn edrych arno'n ymosod yn wyllt ar yr hwrdd, a'i daro mor galed nes iddo dorri dau gorn yr hwrdd. Doedd gan yr hwrdd ddim gobaith! Dyma'r bwch gafr yn bwrw'r hwrdd i lawr, a'i sathru dan draed. Doedd neb yn gallu achub yr hwrdd o'i afael.

8. Tyfodd y bwch gafr mor fawr nes ei fod yn brolio fwy fyth. Ond pan oedd ar ei gryfaf, dyma ei gorn anferth yn cael ei dorri. Yn ei le tyfodd pedwar corn mawr oedd yn pwyntio, un i bob cyfeiriad.

Daniel 8