Tra roeddwn i'n edrych ar hyn, dyma fwch gafr yn dod dros y tir o gyfeiriad y gorllewin. Roedd yn symud mor gyflym doedd ei draed ddim yn cyffwrdd y llawr. Roedd gan y bwch un corn amlwg ar ganol ei dalcen.