8. Felly dyma'r dynion doeth i gyd yn dod i mewn, ond allai run ohonyn nhw ddarllen yr ysgrifen na dweud beth oedd ei ystyr.
9. Erbyn hyn roedd y brenin Belshasar wedi dychryn am ei fywyd. Roedd yn wyn fel y galchen ac roedd ei uchel-swyddogion i gyd wedi drysu'n lân.
10. Pan glywodd y fam frenhines yr holl sŵn roedd y brenin a'i uchel-swyddogion yn ei wneud, aeth i mewn i'r neuadd fwyta. “O frenin! Boed i ti fyw am byth!” meddai. “Paid dychryn. Paid eistedd yna'n welw.
11. Mae yna ddyn yn dy deyrnas sydd ag ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo. Pan oedd Nebwchadnesar yn frenin, daeth yn amlwg fod gan y dyn yma ddirnadaeth, deall, a doethineb fel petai'n un o'r duwiau ei hun. Gwnaeth Nebwchadnesar e yn brif swynwr, ac roedd yn bennaeth ar yr dewiniaid, swynwyr a'r dynion doeth i gyd.
12. Roedd yna rywbeth cwbl arbennig am y dyn yma, Daniel (gafodd yr enw Belteshasar gan y brenin). Roedd ganddo feddwl anarferol o graff, gwybodaeth a gallu i esbonio ystyr breuddwydion, egluro posau, a datrys problemau cymhleth. Galw am Daniel, a bydd e'n dweud wrthot ti beth mae'r ysgrifen yn ei olygu.”
13. Felly dyma nhw'n dod â Daniel at y brenin. A dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Ai ti ydy'r Daniel gafodd ei gymryd yn gaeth o Jwda gan fy rhagflaenydd, y brenin Nebwchadnesar?
14. Dw i wedi clywed fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, a bod gen ti ddirnadaeth, a deall, a doethineb anarferol.
15. Dw i wedi gofyn i'r dynion doeth a'r swynwyr ddarllen ac esbonio'r ysgrifen yma i mi, ond dŷn nhw ddim yn gallu.