Roedd yna rywbeth cwbl arbennig am y dyn yma, Daniel (gafodd yr enw Belteshasar gan y brenin). Roedd ganddo feddwl anarferol o graff, gwybodaeth a gallu i esbonio ystyr breuddwydion, egluro posau, a datrys problemau cymhleth. Galw am Daniel, a bydd e'n dweud wrthot ti beth mae'r ysgrifen yn ei olygu.”