Daniel 5:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd y brenin Belshasar wedi trefnu gwledd i fil o'i uchel-swyddogion. A dyna ble roedd e'n yfed gwin o'i blaen nhw i gyd.

2. Pan oedd y gwin wedi mynd i'w ben dyma Belshasar yn gorchymyn dod â'r llestri aur ac arian oedd ei ragflaenydd, Nebwchadnesar, wedi eu cymryd o'r deml yn Jerwsalem. Roedd am yfed ohonyn nhw, gyda'i uchel-swyddogion, ei wragedd a'i gariadon i gyd.

3. Felly dyma nhw'n dod â'r llestri aur ac arian oedd wedi eu cymryd o deml Duw yn Jerwsalem. A dyma'r brenin a'i uchel-swyddogion, ei wragedd a'i gariadon yn yfed ohonyn nhw.

4. Wrth yfed y gwin roedden nhw'n canmol eu duwiau – eilun-dduwiau wedi eu gwneud o aur, arian, pres, haearn, pren a charreg.

5. Yna'n sydyn roedd bysedd llaw ddynol i'w gweld yng ngolau'r lamp, yn ysgrifennu rhywbeth ar wal blastr yr ystafell. Roedd y brenin yn gallu gweld y llaw yn ysgrifennu.

6. Aeth yn welw gan ddychryn. Roedd ei goesau'n wan a'i liniau'n crynu.

7. Gwaeddodd yn uchel a galw am ei ddewiniaid, y dynion doeth a'r swynwyr. Dwedodd wrthyn nhw “Bydd pwy bynnag sy'n darllen yr ysgrifen a dweud beth mae'n ei olygu yn cael ei anrhydeddu – bydd yn cael ei wisgo mewn porffor, yn cael cadwyn aur am ei wddf, ac yn cael y drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.”

Daniel 5