Gwaeddodd yn uchel a galw am ei ddewiniaid, y dynion doeth a'r swynwyr. Dwedodd wrthyn nhw “Bydd pwy bynnag sy'n darllen yr ysgrifen a dweud beth mae'n ei olygu yn cael ei anrhydeddu – bydd yn cael ei wisgo mewn porffor, yn cael cadwyn aur am ei wddf, ac yn cael y drydedd swydd uchaf yn y deyrnas.”