Daniel 4:19-37 beibl.net 2015 (BNET)

19. Roedd Daniel (oedd hefyd yn cael ei alw'n Belteshasar) dan deimlad am beth amser. Roedd beth oedd yn mynd trwy ei feddwl yn ei ddychryn. Ond dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Belteshasar, paid poeni. Paid gadael i'r freuddwyd dy ddychryn di.” Ac meddai Belteshasar, “Meistr, o na fyddai'r freuddwyd wedi ei rhoi i'ch gelynion chi, a'i hystyr ar gyfer y rhai sy'n eich casáu chi!

20. Y goeden welsoch chi'n tyfu'n fawr ac yn gref, yn ymestyn mor uchel i'r awyr nes ei bod i'w gweld o bobman drwy'r byd i gyd –

21. yr un gyda dail hardd a digonedd o ffrwyth arni, a'r anifeiliaid gwylltion yn cysgodi dani, a'r adar yn nythu yn ei brigau –

22. chi ydy'r goeden yna, eich mawrhydi. Dych chi'n frenin mawr a chryf. Dych chi mor fawr, mae'ch awdurdod chi dros y byd i gyd.

23. Ond wedyn dyma chi'n gweld angel yn dod i lawr o'r nefoedd, ac yn dweud, ‘Torrwch y goeden i lawr, a'i dinistrio, ond gadewch y boncyff yn y ddaear gyda rhwymyn o haearn a phres amdano. Fel y glaswellt o'i gwmpas, bydd y gwlith yn ei wlychu, a bydd yn byw gyda'r anifeiliaid gwylltion am amser hir.’

24. Dyma ystyr y freuddwyd, eich mawrhydi: Mae'r Duw Goruchaf wedi penderfynu mai dyma sy'n mynd i ddigwydd i'm meistr, y brenin.

25. Byddwch chi'n cael eich cymryd allan o gymdeithas, ac yn byw gyda'r anifeiliaid gwylltion. Byddwch chi'n bwyta glaswellt fel ychen, ac allan yn yr awyr agored yn cael eich gwlychu gan wlith. Bydd amser hir yn mynd heibio, nes i chi ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau'r byd, ac yn eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau.

26. Ond fel y boncyff a'r gwreiddiau yn cael eu gadael, byddwch chi'n cael eich teyrnas yn ôl pan fyddwch chi'n cydnabod fod yr Un nefol yn rheoli'r cwbl.

27. Felly plîs ga i roi cyngor i chi, eich mawrhydi. Trowch gefn ar eich pechod, a gwneud y peth iawn. Stopiwch wneud pethau drwg, a dechrau bod yn garedig at bobl dlawd. Falle, wedyn, y cewch chi ddal i fod yn llwyddiannus.”

28. Ond digwyddodd y cwbl i Nebwchadnesar.

29. Flwyddyn yn ddiweddarach pan oedd yn cerdded ar do ei balas brenhinol yn Babilon,

30. dwedodd fel yma: “Edrychwch ar Babilon, y ddinas wych yma! Fi sydd wedi adeiladu'r cwbl, yn ganolfan frenhinol i ddangos mor bwerus ac mor fawr ydw i.”

31. Doedd y brenin ddim wedi gorffen ei frawddeg pan glywodd lais o'r nefoedd yn dweud: “Dyma sy'n cael ei ddweud wrthot ti, y brenin Nebwchadnesar: mae dy deyrnas wedi ei chymryd oddi arnat ti!

32. Byddi'n cael dy gymryd allan o gymdeithas, yn byw gyda'r anifeiliaid gwylltion, ac yn bwyta glaswellt fel ychen. Bydd amser hir yn mynd heibio cyn i ti ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau'r byd, ac yn eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau.”

33. A dyna ddigwyddodd yn syth wedyn. Daeth beth gafodd ei ddweud am Nebwchadnesar yn wir. Cafodd ei gymryd allan o gymdeithas. Dechreuodd fwyta glaswellt, fel ychen. Roedd ei gorff yn cael ei wlychu gan wlith yn yr awyr agored, nes bod ei wallt wedi tyfu fel plu eryr, a'i ewinedd fel crafangau aderyn.

34. “Ond yn y diwedd, dyma fi, Nebwchadnesar, yn troi at yr Un nefol, a ces fy iacháu yn feddyliol. Dechreuais foli y Duw Goruchaf, ac addoli'r Un sy'n byw am byth.Mae ei awdurdod yn para am byth,ac mae'n teyrnasu o un genhedlaeth i'r llall.

35. Dydy pobl y byd i gyd yn ddim o'i gymharu ag e.Mae'n gwneud beth mae ei eisiaugyda'r grymoedd nefol, a phobl ar y ddaear.Does neb yn gallu ei stopiona'i herio trwy ddweud, ‘Beth wyt i'n wneud?’

36. “Pan ges i fy iacháu, ces fynd yn ôl i fod yn frenin, gydag anrhydedd ac ysblander. Daeth gweinidogion y llywodraeth a'r uchel-swyddogion i gyd i'm gwneud yn frenin unwaith eto. Roedd gen i fwy o awdurdod nag erioed!

37. A dyna pam dw i'n addoli, ac yn rhoi'r clod a'r anrhydedd i gyd i Frenin y nefoedd, sydd bob amser yn gwneud beth sy'n iawn ac yn deg. Mae'n rhoi'r rhai balch yn eu lle!”

Daniel 4