Daniel 4:19 beibl.net 2015 (BNET)

Roedd Daniel (oedd hefyd yn cael ei alw'n Belteshasar) dan deimlad am beth amser. Roedd beth oedd yn mynd trwy ei feddwl yn ei ddychryn. Ond dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Belteshasar, paid poeni. Paid gadael i'r freuddwyd dy ddychryn di.” Ac meddai Belteshasar, “Meistr, o na fyddai'r freuddwyd wedi ei rhoi i'ch gelynion chi, a'i hystyr ar gyfer y rhai sy'n eich casáu chi!

Daniel 4

Daniel 4:16-21