Daniel 4:19-28 beibl.net 2015 (BNET)

19. Roedd Daniel (oedd hefyd yn cael ei alw'n Belteshasar) dan deimlad am beth amser. Roedd beth oedd yn mynd trwy ei feddwl yn ei ddychryn. Ond dyma'r brenin yn dweud wrtho, “Belteshasar, paid poeni. Paid gadael i'r freuddwyd dy ddychryn di.” Ac meddai Belteshasar, “Meistr, o na fyddai'r freuddwyd wedi ei rhoi i'ch gelynion chi, a'i hystyr ar gyfer y rhai sy'n eich casáu chi!

20. Y goeden welsoch chi'n tyfu'n fawr ac yn gref, yn ymestyn mor uchel i'r awyr nes ei bod i'w gweld o bobman drwy'r byd i gyd –

21. yr un gyda dail hardd a digonedd o ffrwyth arni, a'r anifeiliaid gwylltion yn cysgodi dani, a'r adar yn nythu yn ei brigau –

22. chi ydy'r goeden yna, eich mawrhydi. Dych chi'n frenin mawr a chryf. Dych chi mor fawr, mae'ch awdurdod chi dros y byd i gyd.

23. Ond wedyn dyma chi'n gweld angel yn dod i lawr o'r nefoedd, ac yn dweud, ‘Torrwch y goeden i lawr, a'i dinistrio, ond gadewch y boncyff yn y ddaear gyda rhwymyn o haearn a phres amdano. Fel y glaswellt o'i gwmpas, bydd y gwlith yn ei wlychu, a bydd yn byw gyda'r anifeiliaid gwylltion am amser hir.’

24. Dyma ystyr y freuddwyd, eich mawrhydi: Mae'r Duw Goruchaf wedi penderfynu mai dyma sy'n mynd i ddigwydd i'm meistr, y brenin.

25. Byddwch chi'n cael eich cymryd allan o gymdeithas, ac yn byw gyda'r anifeiliaid gwylltion. Byddwch chi'n bwyta glaswellt fel ychen, ac allan yn yr awyr agored yn cael eich gwlychu gan wlith. Bydd amser hir yn mynd heibio, nes i chi ddeall fod y Duw Goruchaf yn teyrnasu dros lywodraethau'r byd, ac yn eu rhoi i bwy bynnag mae eisiau.

26. Ond fel y boncyff a'r gwreiddiau yn cael eu gadael, byddwch chi'n cael eich teyrnas yn ôl pan fyddwch chi'n cydnabod fod yr Un nefol yn rheoli'r cwbl.

27. Felly plîs ga i roi cyngor i chi, eich mawrhydi. Trowch gefn ar eich pechod, a gwneud y peth iawn. Stopiwch wneud pethau drwg, a dechrau bod yn garedig at bobl dlawd. Falle, wedyn, y cewch chi ddal i fod yn llwyddiannus.”

28. Ond digwyddodd y cwbl i Nebwchadnesar.

Daniel 4