6. Ond os gallwch chi ddweud wrtho i beth oedd y freuddwyd ges i, a beth mae'n ei olygu bydda i'n pentyrru anrhegion, gwobrau ac anrhydeddau arnoch chi. Felly dwedwch beth oedd y freuddwyd, a beth mae'n ei olygu!”
7. Ond dyma nhw'n dweud eto, “Os bydd y brenin mor garedig â dweud wrthon ni beth oedd y freuddwyd, gwnawn ni ddweud wrtho beth mae'n ei olygu.”
8. “Dw i'n deall eich gêm chi,” meddai'r brenin. “Dych chi'n gweld mor benderfynol ydw i a dych chi'n chwarae am amser.
9. Os wnewch chi ddim dweud wrtho i beth oedd y freuddwyd bydd hi ar ben arnoch chi. Dych chi'n mynd i wneud rhyw esgusion a hel straeon celwyddog yn y gobaith y bydd y sefyllfa'n newid. Felly dwedwch wrtho i beth oedd y freuddwyd. Bydd hi'n amlwg i mi wedyn eich bod chi yn gallu esbonio'r ystyr.”
10. A dyma'r dynion doeth yn ateb y brenin, “Does neb ar wyneb daear allai wneud beth mae'r brenin yn ei ofyn. A does yna erioed frenin (sdim ots pa mor bwerus oedd e) wedi gofyn y fath beth i'w ddewiniaid, ei swynwyr neu ei ddynion doeth.
11. Mae'r brenin yn gofyn am rywbeth sy'n amhosib! Dim ond y duwiau sy'n gwybod yr ateb – a dŷn nhw ddim yma gyda ni!”
12. Pan glywodd hynny, dyma'r brenin yn gwylltio'n lân, a gorchymyn fod dynion doeth Babilon i gyd i gael eu lladd.
13. Roedd y gorchymyn ar fin cael ei weithredu, ac roedd Daniel a'i ffrindiau'n mynd i gael eu dienyddio hefyd.
14. Ond dyma Daniel yn cael gair yng nghlust Arioch, capten gwarchodlu'r brenin, oedd wedi mynd allan i ddienyddio'r dynion doeth i gyd.
15. Gofynnodd i Arioch, “Capten, pam mae'r brenin wedi rhoi gorchymyn mor galed?” A dyma Arioch yn dweud beth oedd wedi digwydd.
16. Felly dyma Daniel yn gofyn i'r brenin roi ychydig amser iddo, a byddai'n esbonio iddo beth oedd ystyr y freuddwyd.
17. Wedyn aeth Daniel adre, a dweud wrth ei ffrindiau Hananeia, Mishael ac Asareia am y peth.