Os wnewch chi ddim dweud wrtho i beth oedd y freuddwyd bydd hi ar ben arnoch chi. Dych chi'n mynd i wneud rhyw esgusion a hel straeon celwyddog yn y gobaith y bydd y sefyllfa'n newid. Felly dwedwch wrtho i beth oedd y freuddwyd. Bydd hi'n amlwg i mi wedyn eich bod chi yn gallu esbonio'r ystyr.”