Daniel 2:30-41 beibl.net 2015 (BNET)

30. Dw i ddim wedi cael yr ateb i'r dirgelwch am fy mod i'n fwy doeth na phawb arall, ond am fod Duw eisiau i'r brenin ddeall y freuddwyd gafodd e.

31. “Eich mawrhydi, beth welsoch chi oedd cerflun anferth – roedd yn aruthrol fawr ac yn disgleirio'n llachar. Roedd yn ddigon i ddychryn unrhyw un.

32. Roedd pen y cerflun wedi ei wneud o aur, ei frest a'i freichiau yn arian, ei fol a'i gluniau yn bres,

33. ei goesau yn haearn, a'i draed yn gymysgedd o haearn a chrochenwaith.

34. Tra roeddech chi'n edrych arno dyma garreg yn cael ei thorri o ochr mynydd gan law anweledig. Dyma'r garreg yn taro'r cerflun ar ei draed, ac yn eu malu nhw'n ddarnau.

35. A dyma'r cerflun anferth yn syrthio'n ddarnau – yr haearn, crochenwaith, pres, arian ac aur. Roedd y cwbl yn ddarnau mân, fel us ar lawr dyrnu. A cafodd y cwbl ei chwythu i ffwrdd gan y gwynt. Doedd dim sôn amdano. Ond wedyn dyma'r garreg wnaeth daro'r cerflun yn troi yn fynydd enfawr oedd i'w weld yn amlwg drwy'r byd i gyd.

36. “Dyna oedd y freuddwyd. A nawr, fe esbonia i beth ydy ystyr y cwbl i'r brenin:

37. Eich mawrhydi, dych chi'n frenin ar frenhinoedd lawer. Mae Duw y nefoedd wedi rhoi awdurdod, pŵer, grym ac anrhydedd i chi.

38. Dych chi'n teyrnasu ar y byd i gyd – ble bynnag mae pobl, anifeiliaid gwylltion ac adar yn byw. Chi ydy'r pen o aur.

39. Ond bydd teyrnas arall yn dod ar eich ôl chi; fydd hi ddim mor fawr â'ch ymerodraeth chi. Ar ôl hynny bydd trydedd teyrnas yn codi i reoli'r byd i gyd – dyma'r un o bres.

40. Wedyn bydd y bedwaredd deyrnas yn codi. Bydd hon yn gryf fel haearn. Yn union fel mae haearn yn malu popeth mae'n ei daro, bydd y deyrnas yma yn dinistrio a sathru popeth aeth o'i blaen.

41. Ac wedyn y traed a'r bodiau welsoch chi (oedd yn gymysgedd o haearn a chrochenwaith) – bydd hon yn deyrnas ranedig. Bydd ganddi beth o gryfder yr haearn ynddi, ond haearn wedi ei gymysgu â chrochenwaith ydy e.

Daniel 2