Daniel 2:35 beibl.net 2015 (BNET)

A dyma'r cerflun anferth yn syrthio'n ddarnau – yr haearn, crochenwaith, pres, arian ac aur. Roedd y cwbl yn ddarnau mân, fel us ar lawr dyrnu. A cafodd y cwbl ei chwythu i ffwrdd gan y gwynt. Doedd dim sôn amdano. Ond wedyn dyma'r garreg wnaeth daro'r cerflun yn troi yn fynydd enfawr oedd i'w weld yn amlwg drwy'r byd i gyd.

Daniel 2

Daniel 2:32-45