Barnwyr 4:13-24 beibl.net 2015 (BNET)

13. dyma fe'n galw'r fyddin gyfan oedd ganddo yn Haroseth-hagoïm at ei gilydd. Yna eu harwain, gyda'r naw cant o gerbydau rhyfel haearn, at Afon Cison.

14. Yna dyma Debora yn dweud wrth Barac, “I ffwrdd a ti! Heddiw mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi Sisera yn dy ddwylo di! Mae'r ARGLWYDD ei hun wedi mynd o dy flaen di!”Felly dyma Barac yn mynd yn syth ac arwain ei fyddin o ddeg mil i lawr llethrau Mynydd Tabor.

15. A dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i Sisera a'i holl gerbydau a'i fyddin banicio. Dyma Barac a'i fyddin yn ymosod arnyn nhw. (Roedd Sisera ei hun wedi gadael ei gerbyd, a ceisio dianc ar droed.)

16. Aeth byddin Barac ar eu holau yr holl ffordd i Haroseth-hagoïm, a cafodd milwyr Sisera i gyd eu lladd – gafodd dim un ei adael yn fyw.

17. Yn y cyfamser roedd Sisera wedi dianc i babell Jael, gwraig Heber y Cenead. (Roedd y Brenin Jabin o Chatsor wedi gwneud cytundeb heddwch gyda llwyth Heber.)

18. Aeth Jael allan i'w groesawu a dweud wrtho, “Tyrd yma, syr. Tyrd i orffwys yma gyda mi. Paid bod ag ofn!”Felly dyma Sisera yn mynd i mewn i'r babell a dyma Jael yn rhoi blanced drosto.

19. Dyma fe'n gofyn iddi, “Ga i ddiod o ddŵr? Dw i'n marw o syched.”Agorodd botel o groen gafr a rhoi diod o laeth iddo. Yna rhoddodd y flanced drosto eto.

20. “Dos i sefyll wrth fynedfa'r babell,” meddai Sisera wrthi. “Os bydd rhywun yn gofyn i ti oes yna rywun yn y babell dywed ‘Na’ wrthyn nhw.”

21. Roedd Sisera wedi ymlâdd ac wedi syrthio i gysgu'n drwm. A dyma Jael yn cymryd peg pabell a morthwyl a mynd at Sisera'n dawel bach. Yna dyma hi'n bwrw'r peg drwy ochr ei ben i'r ddaear, a'i ladd.

22. Roedd Barac wedi bod yn dilyn Sisera. Pan gyrhaeddodd dyma Jael yn mynd allan i'w gyfarfod a dweud wrtho, “Tyrd yma i mi ddangos i ti'r dyn ti'n edrych amdano.” Aeth Barac i mewn i'r babell gyda hi a dyna lle roedd Sisera yn gorwedd yn farw, gyda peg pabell wedi ei fwrw drwy ei ben.

23. Y diwrnod hwnnw roedd Duw wedi gwneud i Israel drechu'r Brenin Jabin o Canaan.

24. Ac o hynny ymlaen dyma'r Israeliaid yn taro'r Brenin Jabin yn galetach ac yn galetach, nes yn y diwedd roedden nhw wedi ei ddinistrio'n llwyr.

Barnwyr 4