Roedd Barac wedi bod yn dilyn Sisera. Pan gyrhaeddodd dyma Jael yn mynd allan i'w gyfarfod a dweud wrtho, “Tyrd yma i mi ddangos i ti'r dyn ti'n edrych amdano.” Aeth Barac i mewn i'r babell gyda hi a dyna lle roedd Sisera yn gorwedd yn farw, gyda peg pabell wedi ei fwrw drwy ei ben.