2 Brenhinoedd 13:3-22 beibl.net 2015 (BNET)

3. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel! Dyma fe'n gadael i Hasael, brenin Syria a'i fab Ben-hadad, eu rheoli nhw am flynyddoedd lawer.

4. Ond dyma Jehoachas yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma'r ARGLWYDD yn gwrando am ei fod wedi gweld fel roedd Israel yn dioddef o dan frenin Syria.

5. Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon un i achub Israel oddi wrth Syria, a cafodd y bobl fynd i fyw yn eu cartrefi eu hunain eto, fel o'r blaen.

6. Ond wnaethon nhw ddim troi eu cefnau ar eilunod teulu Jeroboam oedd wedi gwneud i Israel bechu. Roedden nhw'n dal ati i bechu fel o'r blaen. Roedd hyd yn oed polyn i'r dduwies Ashera yn dal yn Samaria.

7. Doedd gan Jehoachas ddim byddin ar ôl ychwaith, dim ond pum deg o geffylau, deg cerbyd a deg mil o filwyr troed. Roedd brenin Syria wedi eu dinistrio nhw a'u sathru nhw dan draed fel mân lwch ar lawr dyrnu.

8. Mae gweddill hanes Jehoachas, y cwbl wnaeth e a'i lwyddiant milwrol, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

9. Bu Jehoachas farw a chael ei gladdu yn Samaria, a dyma'i fab, Jehoas yn dod yn frenin yn ei le.

10. Roedd Joas wedi bod yn frenin ar Jwda am dri deg saith o flynyddoedd, pan ddaeth Jehoas fab Jehoachas yn frenin ar Israel. Bu'n frenin yn Samaria am un deg chwech o flynyddoedd.

11. Gwnaeth yntau hefyd bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a gwrthod troi cefn ar yr eilunod roedd Jeroboam fab Nebat wedi eu codi i achosi i bobl Israel bechu. Roedd e'n byw yr un fath.

12. Mae gweddill hanes Jehoas, y cwbl wnaeth e, ei lwyddiant milwrol a'i ddewrder yn y rhyfel yn erbyn Amaseia, brenin Jwda, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

13. Pan fuodd Jehoas farw cafodd ei gladdu yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a dyma'i fab, Jeroboam, yn eistedd ar yr orsedd yn ei le.

14. Pan oedd Eliseus yn sâl ac ar ei wely angau aeth Jehoas, brenin Israel, i'w weld. Dyma Jehoas yn torri i lawr i wylo o'i flaen a dweud, “Fy nhad, fy nhad! Ti ydy arfau a byddin Israel!”

15. Dyma Eliseus yn dweud wrtho, “Tyrd â dy fwa a dy saethau yma.” A dyma fe'n gwneud hynny.

16. Wedyn dyma Eliseus yn dweud wrtho, “Gafael yn y bwa.” Yna dyma Eliseus yn rhoi ei ddwylo ar ddwylo'r brenin.

17. Wedyn dyma fe'n dweud wrtho, “Agor y ffenest sy'n wynebu'r dwyrain.” A dyma fe'n agor y ffenest. Yna dyma Eliseus yn dweud, “Saetha!” A dyma fe'n saethu. “Mae'r saeth yna'n symbol o fuddugoliaeth yr ARGLWYDD. Saeth buddugoliaeth dros Syria. Byddi di'n ymosod ar Syria yn Affec ac yn ei difa nhw'n llwyr.”

18. Yna dyma Eliseus yn dweud, “Cymer y saethau, a taro'r llawr gyda nhw.” Felly dyma'r brenin yn gafael yn y saethau a taro'r llawr dair gwaith, ac yna stopio.

19. Roedd y proffwyd yn flin gydag e. “Dylet ti fod wedi taro'r llawr bump neu chwe gwaith! Byddai hynny'n dangos dy fod yn mynd i ddinistrio Syria'n llwyr. Ond nawr dim ond tair gwaith fyddi di'n eu curo nhw.”

20. Bu farw Eliseus a cafodd ei gladdu.Roedd criwiau o ddynion o Moab yn arfer ymosod ar y wlad bob gwanwyn.

21. Un tro pan oedd rhyw ddyn yn cael ei gladdu, dyma'r bobl oedd yn ei gladdu yn gweld un o'r criwiau yna o Moab yn dod. Felly dyma nhw'n taflu corff y dyn marw i mewn i fedd Eliseus a dianc. Pan gyffyrddodd y corff esgyrn Eliseus, daeth yn ôl yn fyw a chodi ar ei draed.

22. Roedd Hasael, brenin Syria, wedi bod yn cam-drin Israel ar hyd cyfnod Jehoachas fel brenin.

2 Brenhinoedd 13