Ond wnaethon nhw ddim troi eu cefnau ar eilunod teulu Jeroboam oedd wedi gwneud i Israel bechu. Roedden nhw'n dal ati i bechu fel o'r blaen. Roedd hyd yn oed polyn i'r dduwies Ashera yn dal yn Samaria.