1 Samuel 28:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Tua'r adeg yna, dyma'r Philistiaid yn casglu eu byddinoedd at ei gilydd i fynd allan i ryfela yn erbyn Israel. A dyma Achis yn dweud wrth Dafydd, “Dw i eisiau i ti ddeall fy mod i'n disgwyl i ti a dy ddynion ddod gyda mi.”

2. Ac meddai Dafydd, “Iawn, cei weld drosot dy hun be alla i, dy was, ei wneud!” A dyma Achis yn ei ateb, “Iawn, cei fod yn warchodwr personol i mi o hyn ymlaen.”

3. Roedd Samuel wedi marw, ac roedd Israel gyfan wedi galaru ar ei ôl a'i gladdu heb fod yn bell o'i gartre yn Rama. Roedd Saul wedi gyrru'r bobl oedd yn mynd ar ôl ysbrydion a'r rhai oedd yn siarad â'r meirw allan o'r wlad.

4. Dyma'r Philistiaid yn dod at ei gilydd ac yn codi gwersyll yn Shwnem. Felly dyma Saul yn casglu byddin gyfan Israel at ei gilydd a chodi gwersyll yn Gilboa.

5. Ond pan welodd Saul wersyll y Philistiaid roedd wedi dychryn am ei fywyd.

6. Felly dyma fe'n gofyn am help gan yr ARGLWYDD, ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn ei ateb – drwy freuddwyd, drwy'r Wrim (oedd gan offeiriad), na drwy broffwydi.

7. Felly dyma Saul yn dweud wrth ei swyddogion, “Chwiliwch am wraig sy'n gallu dewino, i mi fynd ati hi i gael ei holi.” A dyma'i swyddogion yn ei ateb, “Mae yna wraig sy'n dewino yn En-dor.”

8. Dyma Saul yn newid ei ddillad a chymryd arno fod yn rhywun arall. Aeth â dau ddyn gydag e a mynd i weld y wraig ganol nos. Meddai wrthi, “Consuria i mi, a galw i fyny y person dw i'n gofyn amdano.”

9. Dyma'r wraig yn ei ateb, “Ti'n gwybod yn iawn be mae Saul wedi ei wneud. Mae wedi gyrru pawb sy'n ymhél ag ysbrydion ac yn siarad â'r meirw allan o'r wlad. Wyt ti'n ceisio gosod trap i'm lladd i?”

10. Ond dyma Saul yn addo ar lw o flaen yr ARGLWYDD, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, fydd dim byd drwg yn digwydd i ti am wneud hyn.”

1 Samuel 28