Dyma'r wraig yn ei ateb, “Ti'n gwybod yn iawn be mae Saul wedi ei wneud. Mae wedi gyrru pawb sy'n ymhél ag ysbrydion ac yn siarad â'r meirw allan o'r wlad. Wyt ti'n ceisio gosod trap i'm lladd i?”