Y Salmau 89:46-50 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

46. Pa hyd, Arglwydd, yr ymguddi? ai yn dragywydd? a lysg dy ddigofaint di fel tân?

47. Cofia pa amser sydd i mi: paham y creaist holl blant dynion yn ofer?

48. Pa ŵr a fydd byw, ac ni wêl farwolaeth? a wared efe ei enaid o law y bedd? Sela.

49. Pa le y mae dy hen drugareddau, O Arglwydd, y rhai a dyngaist i Dafydd yn dy wirionedd?

50. Cofia, O Arglwydd, waradwydd dy weision, yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd fawrion;

Y Salmau 89