Y Salmau 89:39-44 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

39. Diddymaist gyfamod dy was; halogaist ei goron, gan ei thaflu i lawr.

40. Drylliaist ei holl gaeau ef; gwnaethost ei amddiffynfeydd yn adwyau.

41. Yr holl fforddolion a'i hysbeiliant ef: aeth yn warthrudd i'w gymdogion.

42. Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr; llawenheaist ei holl elynion.

43. Troaist hefyd fin ei gleddyf, ac ni chadarnheaist ef mewn rhyfel.

44. Peraist i'w harddwch ddarfod, a bwriaist ei orseddfainc i lawr.

Y Salmau 89