Y Salmau 89:36-41 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

36. Bydd ei had ef yn dragywydd, a'i orseddfainc fel yr haul ger fy mron i.

37. Sicrheir ef yn dragywydd fel y lleuad, ac fel tyst ffyddlon yn y nef. Sela.

38. Ond ti a wrthodaist ac a ffieiddiaist, ti a ddigiaist wrth dy Eneiniog.

39. Diddymaist gyfamod dy was; halogaist ei goron, gan ei thaflu i lawr.

40. Drylliaist ei holl gaeau ef; gwnaethost ei amddiffynfeydd yn adwyau.

41. Yr holl fforddolion a'i hysbeiliant ef: aeth yn warthrudd i'w gymdogion.

Y Salmau 89