Y Salmau 76:4-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Gogoneddusach wyt a chadarnach na mynyddoedd yr ysbail.

5. Ysbeiliwyd y cedyrn galon, hunasant eu hun: a'r holl wŷr o nerth ni chawsant eu dwylo.

6. Gan dy gerydd di, O Dduw Jacob, y rhoed y cerbyd a'r march i gysgu.

7. Tydi, tydi, wyt ofnadwy; a phwy a saif o'th flaen pan enynno dy ddicter?

8. O'r nefoedd y peraist glywed barn; ofnodd, a gostegodd y ddaear,

9. Pan gyfododd Duw i farn, i achub holl rai llednais y tir. Sela.

Y Salmau 76