Y Salmau 75:8-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Oblegid y mae ffiol yn llaw yr Arglwydd, a'r gwin sydd goch; yn llawn cymysg, ac efe a dywalltodd ohono: eto holl annuwiolion y tir a wasgant, ac a yfant ei waelodion.

9. Minnau a fynegaf yn dragywydd, ac a ganaf i Dduw Jacob.

10. Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol; a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir.

Y Salmau 75