Y Salmau 75:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Clodforwn dydi, O Dduw, clodforwn; canys agos yw dy enw; dy ryfeddodau a fynegant hynny.

2. Pan dderbyniwyf y gynulleidfa, mi a farnaf yn uniawn.

3. Ymddatododd y ddaear, a'i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau. Sela.

4. Dywedais wrth y rhai ynfyd, Nac ynfydwch; ac wrth y rhai annuwiol, Na ddyrchefwch eich corn:

5. Na ddyrchefwch eich corn yn uchel: na ddywedwch yn warsyth.

Y Salmau 75