Y Salmau 64:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Clyw fy llef, O Dduw, yn fy ngweddi: cadw fy einioes rhag ofn y gelyn.

2. Cudd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus; rhag terfysg gweithredwyr anwiredd:

3. Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon:

4. I saethu y perffaith yn ddirgel: yn ddisymwth y saethant ef, ac nid ofnant.

Y Salmau 64