Y Salmau 37:37-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

37. Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn: canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd.

38. Ond y troseddwyr a gyd‐ddistrywir: diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith.

39. A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr Arglwydd: efe yw eu nerth yn amser trallod.

40. A'r Arglwydd a'u cymorth hwynt, ac a'u gwared: efe a'u gwared hwynt rhag yr annuwiolion, ac a'u ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.

Y Salmau 37