Y Salmau 37:21-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Yr annuwiol a echwynna, ac ni thâl adref: ond y cyfiawn sydd drugarog, ac yn rhoddi.

22. Canys y rhai a fendigo efe, a etifeddant y tir; a'r rhai a felltithio efe, a dorrir ymaith.

23. Yr Arglwydd a fforddia gerddediad gŵr da: a da fydd ganddo ei ffordd ef.

24. Er iddo gwympo, ni lwyr fwrir ef i lawr: canys yr Arglwydd sydd yn ei gynnal ef â'i law.

25. Mi a fûm ieuanc, ac yr ydwyf yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu, na'i had yn cardota bara.

Y Salmau 37