Y Salmau 34:18-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Agos yw yr Arglwydd at y rhai drylliedig o galon; ac efe a geidw y rhai briwedig o ysbryd.

19. Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn: ond yr Arglwydd a'i gwared ef oddi wrthynt oll.

20. Efe a geidw ei holl esgyrn ef: ni thorrir un ohonynt.

21. Drygioni a ladd yr annuwiol: a'r rhai a gasânt y cyfiawn, a anrheithir.

22. Yr Arglwydd a wared eneidiau ei weision: a'r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef, nid anrheithir hwynt.

Y Salmau 34