Y Salmau 147:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Molwch yr Arglwydd: canys da yw canu i'n Duw ni; oherwydd hyfryd yw, ie, gweddus yw mawl.

2. Yr Arglwydd sydd yn adeiladu Jerwsalem: efe a gasgl wasgaredigion Israel.

3. Efe sydd yn iacháu y rhai briwedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau.

4. Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr: geilw hwynt oll wrth eu henwau.

5. Mawr yw ein Harglwydd, a mawr ei nerth: aneirif yw ei ddeall.

Y Salmau 147