Y Salmau 141:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Arglwydd, yr wyf yn gweiddi arnat: brysia ataf; clyw fy llais, pan lefwyf arnat.

2. Cyfeirier fy ngweddi ger dy fron fel arogl‐darth, a dyrchafiad fy nwylo fel yr offrwm prynhawnol.

3. Gosod, Arglwydd, gadwraeth o flaen fy ngenau: cadw ddrws fy ngwefusau.

4. Na ostwng fy nghalon at ddim drwg, i fwriadu gweithredoedd drygioni gyda gwŷr a weithredant anwiredd: ac na ad i mi fwyta o'u danteithion hwynt.

Y Salmau 141