8. Yr haul, i lywodraethu y dydd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd:
9. Y lleuad a'r sêr, i lywodraethu y nos: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
10. Yr hwn a drawodd yr Aifft yn eu cyntaf‐anedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;
11. Ac a ddug Israel o'u mysg hwynt: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
12. A llaw gref, ac â braich estynedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
13. Yr hwn a rannodd y môr coch yn ddwy ran: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
14. Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ganol: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
15. Ac a ysgytiodd Pharo a'i lu yn y môr coch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
16. Ac a dywysodd ei bobl trwy yr anialwch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
17. Yr hwn a drawodd frenhinoedd mawrion: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:
18. Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd: