Y Salmau 136:3-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Clodforwch Arglwydd yr arglwyddi: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

4. Yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

5. Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

6. Yr hwn a estynnodd y ddaear oddi ar y dyfroedd: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.

7. Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd:

8. Yr haul, i lywodraethu y dydd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd:

9. Y lleuad a'r sêr, i lywodraethu y nos: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

10. Yr hwn a drawodd yr Aifft yn eu cyntaf‐anedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;

11. Ac a ddug Israel o'u mysg hwynt: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

12. A llaw gref, ac â braich estynedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

13. Yr hwn a rannodd y môr coch yn ddwy ran: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

14. Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ganol: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

15. Ac a ysgytiodd Pharo a'i lu yn y môr coch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

16. Ac a dywysodd ei bobl trwy yr anialwch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

17. Yr hwn a drawodd frenhinoedd mawrion: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

18. Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

19. Sehon brenin yr Amoriaid: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

20. Ac Og brenin Basan: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

21. Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

Y Salmau 136