Y Salmau 136:18-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

19. Sehon brenin yr Amoriaid: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

20. Ac Og brenin Basan: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

21. Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

22. Yn etifeddiaeth i Israel ei was: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

23. Yr hwn yn ein hiselradd a'n cofiodd ni: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

Y Salmau 136