Y Salmau 136:12-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A llaw gref, ac â braich estynedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

13. Yr hwn a rannodd y môr coch yn ddwy ran: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

14. Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ganol: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

15. Ac a ysgytiodd Pharo a'i lu yn y môr coch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

16. Ac a dywysodd ei bobl trwy yr anialwch: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

Y Salmau 136