Y Salmau 136:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

2. Clodforwch Dduw y duwiau: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.

3. Clodforwch Arglwydd yr arglwyddi: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

4. Yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

Y Salmau 136