Y Salmau 136:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

2. Clodforwch Dduw y duwiau: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.

3. Clodforwch Arglwydd yr arglwyddi: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

4. Yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

5. Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

6. Yr hwn a estynnodd y ddaear oddi ar y dyfroedd: oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.

7. Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd:

8. Yr haul, i lywodraethu y dydd: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd:

9. Y lleuad a'r sêr, i lywodraethu y nos: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.

10. Yr hwn a drawodd yr Aifft yn eu cyntaf‐anedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;

11. Ac a ddug Israel o'u mysg hwynt: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd:

12. A llaw gref, ac â braich estynedig: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

13. Yr hwn a rannodd y môr coch yn ddwy ran: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.

Y Salmau 136